Mae toddiad SWGCC (CareDirector) yn rhaglen TG genedlaethol sy'n galluogi rhannu gwybodaeth yn ddiogel rhwng sefydliadau iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol er mwyn darparu gwell gwasanaethau a chymorth i bobl yng Nghymru
Bydd un system cofnodi integredig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu gwasanaethau cymdeithasol (oedolion / plant) ac amrywiaeth o wasanaethau iechyd cymunedol (gan gynnwys iechyd meddwl, therapïau a nyrsio cymunedol) i sicrhau bod gofal a chymorth i unigolion, teuluoedd a chymunedau yn cael eu cynllunio, eu cydgysylltu a'u darparu'n fwy effeithiol. Bydd yn cefnogi gofynion rhannu gwybodaeth, rheoli achosion a llif gwaith ar gyfer sefydliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled Cymru. Bydd yn dangos ar ba cam mae claf o ran ei driniaeth ac yn tynnu sylw gweithwyr iechyd proffesiynol at ddata allweddol, a fydd yn helpu i ddarparu triniaeth effeithiol. Bydd CareDirector yn rhyngwynebu ag amrywiaeth o systemau priodol eraill ar draws awdurdodau lleol a sefydliadau'r GIG. Y toddiant SWGCC ar hyn o bryd yw CareDirector (16.06.2022)
Manteision CareDirector:
- Gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Mae'n gwella'r broses o rannu gwybodaeth berthnasol a phriodol rhwng gwasanaethau ac ar draws ffiniau rhanbarthol, sy'n golygu bod gan y bobl gywir y wybodaeth gywir ar yr adeg gywir
- Cymorth ar gyfer asesiadau integredig a rennir rhwng staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Mynediad 24/7 i gofnodion a gwybodaeth
- Lleihau dyblygu o ran cipio data
- Gwneud penderfyniadau mwy gwybodus gan fod yr holl wybodaeth berthnasol mewn un lle
- Rheoli mynediad at ddata sensitif yn effeithiol
- Yn cefnogi gweithio symudol
- Bydd CareDirector yn cefnogi'r gwaith o newid gwasanaethau sydd eisoes ar y gweill i ail-lunio gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd yng Nghymru
- Llai o apwyntiadau wedi’u colli ac ymweliadau wedi'u gwastraffu
- Gostyngiad mewn dyblygu o ran cadw cofnodion
- Rheoli adnoddau'n well
- Gwell cefnogaeth i waith tîm amlddisgyblaethol
- Gostyngiad yn nifer y derbyniadau diangen i'r ysbyty
- Proses ryddhau gyflymach
- Galluogi gweithwyr proffesiynol ar draws sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio yn eu hardal leol, y rhanbarth ac ar draws Cymru gyfan, a
- Yn cefnogi modelau gwasanaeth newydd.